Wela i ddim fod unrhyw beth o'i le ar 'ping', 'pingiau' a 'pingo' gan fod y
ffurfiau 'pingo' a 'pingaf' i'w gweld ar dudalen 2802 Geiriadur Prifysgol
Cymru. Bydd pobl Ceredigion yn defnyddio 'pingad' yn yr ystyr drosiadol,
wrth gwrs. Gwell fyddai cadw 'tinc' a 'tincio' at ryw ystyr arall ('to
tinkle', 'to tinker', yn o^l tt 3499-3500 Geiriadur y Brifysgol).
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Nic Dafis" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, April 25, 2003 10:15 AM
Subject: Ping
> Term cyfrifiadurol. Acronym yn wreiddiol (Packet Internet Groper) ond
> erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio fel berf ac enw:
>
> "Previous pings sent"
>
> "If you choose to only allow a select group of individuals to ping, send
> this URL to them privately."
>
> Tinc? Tincian?
>
> Diolch yn fawr,
>
> Nic
>
>
> --
> Nic Dafis, Llangrannog
> http://morfablog.com
> http://maes-e.com
>
|