Ar sail y dystiolaeth hyd yn hyn, byddwn yn mentro dyfalu mai ffurf ffug
ddiweddar yw'r Ystagbwll/Ystangbwll yma, wedi'i chreu yn yr un ffordd â
'Cil-y-coed' i geisio "adennill" i'r Gymraeg enwau lleoedd a ddatblygodd yn
uniaith Saesneg yn wreiddiol.
Mae'n hawdd cydymdeimlo â'r math o ddyhead gwladgarol sydd efallai yn ysgogi
ymgais fel hyn i Gymreigio enwau, ond o barch i'r gwirionedd, mae'n debyg
mai cydnabod Stackpole fel y ffurf ddilys sydd orau, a gadael ffurfiau
eraill i'r rhamantwyr?
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, April 24, 2003 9:10 AM
Subject: Re: Stackpole - Ystangbwll
> Mae Stackpole yn ymddangos fel Ystagbwll mewn llyfryn am atyniadau'r
> Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
> Gwen
>
> -----Original Message-----
> From: Sian Roberts [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 23 April 2003 17:10
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Stackpole - Ystangbwll
>
>
> Mae'r map ar gael gan:
> Cyhoeddiadau Stad
> 41 Ystad Ddiwydiannol
> Mochdre
> Y Drenewydd
> Powys
> SY16 4LE
> 01686 622489
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
> Sent: 23 April 2003 16:34
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Stackpole - Ystangbwll
>
> Na Melville Richards, chwaith, yn 'Enwau Tir a Gwlad', er bod
> 'Stackpole' yn
> ymddangos ar td 47 lle mae so^n am "gantref go fawr a'r cwbl bron o'
> plwyfi'n dwyn enwau Saesneg, megis Angle, Warren, Stackpole, Hodgeston a
> Herberston".
>
> Rwyf wedi gweld cyfeiriadau at fap (Map yn y Gymraeg?) sy'n rhoi
> fersiynau
> Cymraeg o enwau lleoedd, ond wn i ddim pa mor ddibynadwy ydyw. Ble mae
> cael
> gafael ar gopi ohono?
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Gareth Bevan" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 23, 2003 4:19 PM
> Subject: Re: Stackpole - Ystangbwll
>
>
> > Nid yw B.G. Charles: The place-names of Pembrokeshire 736 na Geiriadur
> yr
> > Academi yn cyfeirio at ffurf Gymraeg, hyd y gwelaf i.
> >
> > Gareth
> >
> >
>
> ---
> Incoming mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.467 / Virus Database: 266 - Release Date: 01/04/2003
>
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.467 / Virus Database: 266 - Release Date: 01/04/2003
>
>
|