Mi ddefnyddiwyd 'llusern' yng Nghyngor Sir Gwynedd sbel yn ol - yn yr ystyr
eu bod yn sgleinio ac felly'n geiliogod gwyn iawn.
Sue
----- Original Message -----
From: "EirlysWilliams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 30, 2003 7:10 PM
Subject: Re: Beacon
> Oes. Mae 'na rywbeth yn bendant. Dydi hyn fawr o help, dwi'n gwybod, ond
fe
> ddes i o hyd i rywbeth tua dair neu bedair blynedd yn o^l. (Cymdeithas
> Llywodraeth Leol Cymru, yn cyfeirio at 'beacon councils', o bosibl?) Dwi
> ddim yn cofio erbyn hyn be oedd o, ond dwi'n weddol sicr nad
"enghreifftiol"
> oedd o. Mae gen i ryw gof bod eu dogfen yn egluro union ystyr yr ymadrodd,
> ond mae'r enghreifftiau sy'n codi wrth chwilio yn Google yn awgrymu mai
enw
> priod ydi beacon/Beacon, felly naill ai mae 'na ddau fath o 'feacon' neu
dwi
> wedi camddeall pethau, mae'n amlwg.
>
> Eirlys W
>
>
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Meg Elis" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, April 30, 2003 6:00 PM
> Subject: Beacon
>
>
> > Mae gen i ddogfen sy'n crybwyll "Beacon School" a "Beacon College" -
h.y.,
> > nid enw ar ysgol benodol, ond sefydliad a ddewiswyd i roi esiampl
oherwydd
> > rhyw fath o ragoriaeth. Unrhyw un yn gwybod os oes 'na derm swyddogol?
> (Mae'n
> > digwydd yn Lloegr yn bennaf, ond yn lledu i Gymru hefyd). Triais
> > "enghreifftiol", ond mae'n fwy na hynny.
> > Diolch am unrhyw help
> >
> > Meg
> >
>
|