Mae 'na wahaniaeth rhwng 'transnational' ac 'international'.
Mae 'international' (rhyngwladol) yn dynodi cwmni sydd yn gweithio allan o
un wlad ac yn masnachu yn uniongyrchol neu drwy ddosbarthwr mewn gwledydd
tramor. Mae cwmniau 'transnational' yn berchen ffatrioedd, sefydliadau
ymchwil ayyb mewn sawl gwlad, ac yn aml bydd pencadlys y cwmni yn fach a
phenderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud mewn pencadlysoedd eraill,
efallai mewn gwledydd eraill (e.e. gall cwmni Prydeinig fod a HQs ym
Mhrydain a'r unol daleithiau). Yn fy nhyb i nid oes digon o wahaniaeth
rhwng cwmni 'transnational' a 'multinational' i gyfiawnhau bathu gair
newydd ond defnyddir y termau yn yr un frawddeg yn aml ac yn
bersonol 'rwy'n hoffi 'trawswladol'
|