Byddai "escarpment" yn ddisgrifiad da o'r ddau fynydd yn ne Meirionnydd ond
dwn i ddim am "rocky". Yn sicr mae craig i'w gweld ar yr ochr serthaf un,
ond mae'r ochr arall yn addfwyn ac yn dir mynydd da ar gyfer pori defaid.
A sawl bryn sydd yno sy'n uwch na 2000tr? Mae'n debyg mai bryniau fyddai
pobl yr Alpau yn eu galw, a thyrrau morgryg fydda pobl yr Himaleas yn eu
galw ond, os ydych erioed wedi cael eich dal mewn tywydd garw arnyn nhw, yna
mynydd ydi'r term priodol yn fy marn i.
John
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 18, 2003 2:53 PM
Subject: Re: Darren
Yn o^l Gwynedd O Pierce yn 'Place-Names in Glamorgan', ystyr 'Tarren' yw
'hill, scarp, rocky outcrop'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Elin Mared Davies" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, March 18, 2003 1:36 PM
Subject: Darren
Dwi wedi cael galwad ffon yn holi beth yw ystyr Darren yn 'Cwm Darren'. Yn
anffodus, tydw i ddim ble dwi'n arfer bod heddiw ac felly'n methu mynd i
chwilota yn fy llyfrau am yr ystyr.
Diolch o flaen llaw
Elin
__________________________________________________________________________
Freeserve AnyTime - Go online whenever you want for just £6.99 a month for
your first 3 months, that's HALF PRICE! And then it's just £14.99 a month
after that.
For more information visit http://www.freeserve.com/time/ or call free on
0800 970 8890
|