Dyma'r un ddadl a gafwyd gyda Disclosure ac ati - pam nad yw'n bosibl iddynt
gael brand name arall yn y Gymraeg? Nid yw'n anymarferol i sefydliadau
arddel fersiynau gwahanol o'u henwau at bwrpasau gwahanol. Deallaf eu bod
yn marchnata Cymru dramor ond mae'r iaith Gymraeg yn gymwys ar gyfer pob
maes gan gynnwys hysbysebu'r wlad dramor (efallai na fydd llawer yn ei deall
ond nid yw hynny'n tynnu dim i ffwrdd o'r ffaith ei bod yr un mor gymwys).
Dylen ni geisio cael gwared ar y syniad hwn fod y Gymraeg yn rhywbeth i'w
gyfyngu i Gymru yn unig - un o ieithoedd y Deyrnas Unedig yw hi (er nad yw
ei thirogaeth 'naturiol' yn cwmpas holl diriogaeth y DU) ac mae eisiau iddi
gael ei thrin fel un ohonynt ar lefel uwch na Chymru. Nid wyf yn gofyn am
gyfieithu popeth yn Lloegr i'r Gymraeg ac ati ond cael gwared ar y syniad
hwn fod Saesneg yn gosmopolitan lle mae'r Gymraeg yn iawn ar gyfer Cymru ond
ni fydd pobl tramor eisiau gwybod dim amdani (sylwaf fod Siapaneg yw un o'r
ieithoedd ar y wefan - tybed a yw 'Wales, world nation' yn ymwybodol bod
Ymerodres Siapan wedi cael gwersi Cymraeg!).
Muiris
----- Original Message -----
From: "Evans, Meinir (OPO)" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 03, 2003 1:12 PM
Subject: Re: Wales World Nation
Y cyngor a gawson ni gan Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu'r Cynulliad oedd peidio â
chyfieithu teitl y rhaglen, neu'r 'brand name' Er bod y wefan wedi'i
chyfeithu i ieithoedd eraill, mae'r teitl wedi'i adael yn Saesneg ym mhob
achos.
-----Original Message-----
From: Dafydd Tomos [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 03 March 2003 10:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wales World Nation
> Wales World Nation - Be ydio dwi ddim yn gwybod.
http://www.walesworldnation.com/
Ar gael yn Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Siapaneg ond ddim
Cymraeg - mi fyddai hynny rhy synhwyrol.
'Cymru: Cenedl Ryngwladol' oedd cyfieithiad y datganiadau gwasg
(llynedd)
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
PLEASE NOTE: THE ABOVE MESSAGE WAS RECEIVED FROM THE INTERNET.
On entering the GSI, this email was scanned for viruses by the Government
Secure Intranet (GSI) virus scanning service supplied exclusively by Cable &
Wireless in partnership with MessageLabs.
GSI users see http://www.gsi.gov.uk/main/new2002notices.htm for further
details. In case of problems, please call your organisational IT helpdesk.
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.459 / Virus Database: 258 - Release Date: 25/02/03
|