Mae yna reolau pendant gan IUPAC (International Union of Pure and
Applied Chemistry) ynly^n ag enwau cemegau, ac mae trefn y rhannau o'r
enwau yn arwyddocaol. Mae'r rheolau yn caniata+u cynhyrchu'r enw o'r
fformiwla (neu'r strwythur), neu'r fformiwla a'r stwythur o'r enw.
Yn sicr nid fel enwau ac ansoddeiriau y dylid edrych ar y rhannau.
Ceisiais egluro, flynyddoedd yn o^l, nad 'Jonesal Prys Morgan' yw fy
enw yn Saeneg; yr oedd enghreifftiau megis copper sulphate yn cael eu
cyfieithu yn sylffad copr, pan yw'r rheolau yn dweud mai'r elfen fwyaf
electopositif (sef copr) ddylai ddod gyntaf.
Mae yna broblem gan nad yw pob cyfundrefn enwi cemegau yn dilyn rheolau
IUPAC yn union, a defnyddir enwau cyffredin neu led-gyffredin (trivial
neu semi-trivial). Mae hyn yn digwydd weithiau oherwydd bod yr enwau
systematig ychydig yn drwsgl, e.e. haws defnyddio 'vitamin A' na
'9-(2,6,6-trimethyl-1-cyclohexenyl)-3,7 dimethyl-2,4,6,8-nonatetraen-1-ol'!
Wrth Gymreigio'r ffurfiau gellir (fel mae Richard yn dweud) defnyddio
ffurfiau megis deu- am di- ney cylcho- am cyclo-. Mae angen gofal gyda
llafariaid - mae iddynt gryn arwyddoca^d a dylid gochel rhag ceisio
cyfleu'r sain Saesneg, felly mae ethane > ethan, ethene > ethen, ac
ethyne > ethyn.
Prys
--
_______________________________________________
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Prifysgol Cymru - Bangor - University of Wales
Trefenai
Ffordd Caergybi
BANGOR
Gwynedd
LL57 2PZ
tel: (+44) 1248 382955/383013/351151
ffacs: (+44) 1248 383990
_______________________________________________
|