Diolch am y cyfeiriad at reolau IUPAC. O edrych ar fersiwn Ffrangeg o'r
rheolau rwy'n gweld bod yr enwau Ffrangeg
(www.chemexper.com/misc/iupac/3/index.html) yn rhoi 'acide' e.e. ar
ddechrau'r enw e.e. "acide 4,7,10,13-tetraoxapentadeconoique" yn gyson â
chystrawen y Ffrangeg. A fyddai "asid 4,7,10,13 tetraocsapentadeconoig" yn
iawn yn Gymraeg o gymryd nad yw "asid" yn derm systemig? Os felly, oes
modd dweud yr un peth am "Xylose Lysine Deoxycholate Agar", sef rhoi "agar"
ar ddechrau'r enw Cymraeg i greu "Agar Xylos Lysin Deocsicolad"? A beth
am 'glucose' yn 'Lysine Decarboxylase Glucose' - ai term cyffredin neu led-
gyffredin yw 'glwcos' ac os felly ai 'Glwcos Lysin Decarbocsilas'yw'r
Gymraeg ynteu 'Lysin Decarbocsilas Glwcos?
O ran 'copper sulphate' rwy'n gweld bod y Ffrangeg yn sôn am 'sulphate de
cuivre' ac mae cyfuniadau eraill megis 'oxyde de styrene' a 'dibromure de
cholesterol'yn dilyn yr un patrwm. Sut mae'r Ffrancwyr yn cael getawe?!
|