Ysgrifennodd Berwyn.
> Dylwn fod wedi ychwanegu bod Google newydd ddod o hyd i ryw 219 o
> enghreifftiau o 'globaleiddio'.
Mae'n anodd cael gwared o'r gair pan fydd e allan yn y gwyllt, heblaw
fod y Bīb yn dechrau lledu'r gair (nid y Gair). Rhaid dweud ei fod yn
eitha gwirion os ydym yn cyfieithu 'global' (gyda'i olddodiad saesneg)
ond ddim 'globaleiddio' gyda'i olddodiad saesneg ac ol-olddodiad
Cymraeg.
Dwi'n gallu gweld maintais defnyddio 'bydoli' i gyd-fynd a
'gwladoli' sydd yn air eitha' adnabyddus i feddwl rhywbeth tebyg
ar lefel gwlad yn hytrach na'r byd.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|