Pan fues i'n trafod 'Diwrnod y Llyfr' gyda chyfieithydd profiadol y bore
'ma, fe wnaeth hi'r sylw mai
"'diwrnod yr englyn' neu 'diwrnod y cywydd' y bydden ni'n ei ddweud, nid
'diwrnod englynion' na 'diwrnod cywyddau'.
Mae'n ymddangos i mi fod 'diwrnod' + y(r) + enw 'genre' (llenyddol?) yn
gyfuniad hapusach (o drwch blewyn, efallai) na 'diwrnod' + ffurf luosog. Ond
cofier, wrth gwrs, mai 'Sul y Mamau' yw'r ffurf a dderbynnir, nid 'Sul y
Fam'.
Er fy mod i'n ei chael hi'n hawdd derbyn 'cadair olwyn', bydda i'n dechrau
petruso pan fydd cyfaill i mi'n so^n am ei 'lyfr siec' ... Mwy o broblem i
mi yw cyfieithu 'heads of department' gan fod 'penaethiaid adran' a
'penaethiaid adrannau' yr un mor gywir -ac anghywir - a^'i gilydd. Am wn i
mai 'penaethiaid adran' yw'r ffurf leiaf anghywir ac mai honno yw'r ffurf a
ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau.
Yng ngeiriau'r diweddar Moc Rogers, 'Petai 'na ddim problemau fel hyn yn
bod, fydden ni ddim yma'n cyfieithu!"
Berwyn
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 28, 2003 11:42 AM
Subject: Re: Diwrnod y Llyfr
Mae deunydd PhD i rywun yn y maes yma, mae'n siwr!
Rwy'n credu bod 'plant ysgol', 'cinio ysgol', 'athrawon ysgol', 'darlithwyr
coleg' yn enghreifftiau eraill tebyg i 'cot law' sy'n dangos bod mwy nag un
gystrawen ar gael yn y fan hyn, a dadansoddi ac esbonio'r rheiny fyddai
craidd y PhD.
O ran y gadair olwynion, os yw 'cadair olwyn' yn dderbyniol, wel mae'n rhaid
derbyn yr 'arddangosfa babell', a'r 'siop lyfr', a'r 'siop esgid' ac efallai
greu 'ffair sbor' hefyd?!
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 28, 2003 11:05 AM
Subject: Re: Diwrnod y Llyfr
Ac, adeg y protestiaidau am bris petrol etc roedd y cyfryngau'n
defnyddio "gyrwyr lorri" yn ogystal â "gyrwyr lorïau"
|