Mae'r un peth yn wir am "tirwedd" - e.e. ar y radio mae pobl sy'n siarad
Cymraeg yn hyderus bron bob amser yn dweud "y tirwedd" - mae rhywbeth yn
chwithig am "y dirwedd" - er mai dyma sy'n gywir yn ôl y rheol y
cyfeirir ati isod (a GyrA a'r Termiadur Ysgol). Ond mae Termau
Cynllunio Lleol (Copi Drafft) Wil Petherbridge (1994) yn nodi mai gair
gwrywaidd ydyw yng Nghynllun Fframwaith Gwynedd - Memorandwm Esboniadol
(1989).
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of John D
Williams
Sent: 12 February 2003 12:20
To: [log in to unmask]
Subject: landform
O edrych yn y Geiriadur Mawr, Termau Daearyddiaeth CBAC a'r Termiadur
Ysgol, gwelaf mai enw unigol gwrywaidd yw tirffurf.
O ddilyn y rheol gyffredinol mai'r ail elfen - fel arfer - mewn
cyfansoddair sy'n pennu ei genedl, pam nad ydy tirffurf yn fenywaidd?
Ai am mai enw gwrywaidd yw tir a fod yna rywbeth yn yr isymwybod yn
mynnu bod ffurfiau cyfansawdd a ffurfir ohono hwythau yn wrywaidd?
---
Incoming mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/2003
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/2003
|