Er na wn i pwy ddechreuodd defnyddio 'hafan' am 'home page', mae'n amlwg ei
fod yn ffurf sydd wedi cydio gan mai 'hafan' fydda i'n ei weld yn gyson
erbyn hyn. Un peth sydd i'w ddweud o blaid 'hafan', wrth gwrs, yw nad yw'n
gyfieithiad slafaidd o'r Saesneg, ac mae hynny'n beth braf, yn enwedig ym
myd gwyddoniaeth. Er mai 'tudalen cartref' (gan mai gwrywaidd yw 'tudalen' o
ran clymiad y geiriau, er nad o ran arfer gwlad) y byddwn i'n arfer ei
ddefnyddio, 'hafan' fydda i'n ei arfer bllach.
Cystal, wedi'r cyfan, i gyfieithwyr ddefnyddio geiriau sydd wedi ennill eu
plwyf ('gwerthuso' a ffurfiau poenus eraill), neu fe'n cawn ein hunain yn
defnyddio ieithwedd gwbl wahanol i un gweddill y boblogaeth - perygl sy'n
codi'n barod. Bydd rhai Cymry Cymraeg sy'n cysylltu a^ mi am y tro cyntaf yn
siarad yn Saesneg am eu bod nhw'n meddwl nad yw eu Cymraeg yn ddigon da ac y
bydda i'n siarad rhyw Gymraeg aruchel ac annealladwy a^ nhw ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, February 03, 2003 12:16 AM
Subject: Terminoleg y we
Newydd ddod o hyd i'r wefan hon gan y BBC sy'n rhestru rhywfaint o
derminoleg y we ac yn cynnig cyfieithiad Cymraeg ar y termau. Dw i ddim yn
cofio neb yn sôn amdani o'r blaen, felly dyma hi...
http://www.bbc.co.uk/wales/clic-clic/glossary.shtml
Yn bersonol ni fyddwn yn cymeradwyo pob term (er enghraifft 'gwegam',
byddai'n well gyda fi ddefnyddio 'gwe-gamera' a 'thudalen gartref' yn
hytrach na 'Hafan')
Muiris
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 28/01/03
|