Gwen Rice wrote:
> Oes gan unrhyw un gynnig mwy cryno na 'cymryd olion bysedd yn enetig'?
Cafwyd sawl trafodaeth am ‘genetic’ o’r blaen (gellir eu gweld trwy
chwilio’r archifau). Mae neges Yr Athro Deri Tomos
http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/wa.exe?A2=ind0005&L=welsh-termau-cymraeg&P=R734&I=-3
yn cynnwys awgrymiadau gwerthfawr, yn arbennig yngly^n â defnyddio’r enw
‘genynnau’ ac nid yr ansoddair ‘genynnol’ (nid ‘genetig’). Cymharer
‘peirianneg pontydd’ nid ‘peirianneg pontiol’.
Nid oes a wnelo ‘genetic fingerprinting’ ddim oll â ‘fingerprint’ –
defnydd trosiannol ydyw, ac mae’n swnio’n chwithig iawn i mi yn y
Gymraeg. Felly dylid ceisio cael term sy’n mynegi’r cysyniad.
Mae'r New Oxford Dictionary (1998) yn rhoi'r diffiniad:
'genetic fingerprinting (also genetic profiling) the analysis of DNA
from samples of body tissues... in order to identify individuals.'
Oes angen dweud mwy na ‘profion genynnau’ neu efallai ‘profion
adnabod/olrhain genynnau’?
Prys
--
_______________________________________________
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Prifysgol Cymru - Bangor - University of Wales
Trefenai
Ffordd Caergybi
BANGOR
Gwynedd
LL57 2PX
tel: 01248 382955/383013/351151
ffacs: 01248 383990
_______________________________________________
|