Diddorol oedd sylwi ychydig wythnosau wrth wylio hen episod o Star Trek
The Next Generation, fod Captain Jean Luc Picard wrth anfon neges i Star
Fleet, yn annerch un o'r criw, gyda'r geiriau 'Tell Start Fleet that we
have engaged the Borg.'
Roeddwn eisiau gwybod yn sut i gyfieithu hynny a dyma droi at GyA a
chael 'mynd i'r afael â' sy'n swnio'n benigamp i mi.
Yn y ffilm STTNG a ddarlledwyd ddoe, defnyddiwyd yr un ymadrodd mewn
cyd-destun tebyg.
Biti fod 'engage' yn gallu cyfleu cymaint o wahanol ystyron.
|