Mae 'Disability Rights Commission Act' yn ymddangos yn 'Anabledd ac iaith',
sef 'Deddf Comisiwn Hawliau Anabledd'. Tybed felly a fyddai 'Comisiynydd
Hawliau Anabledd Cymru' yn gwneud y tro?
Ken Owen
Marian-glas
----- Original Message -----
From: David Bullock <[log in to unmask]>
To: Ken Owen <[log in to unmask]>
Sent: 26 February 2003 14:48
Subject: Re: Disability Rights Commissioner for Wales
Tybed a fyddai ymadrodd fel 'hawliau'r anabl' yn codi gwrychyn y bobl anabl
hynny sy'n brwydro am eu hawliau, ac sydd am gael eu gweld a'u henwi fel
'pobl anabl' ac nid fel 'yr anabl'?
Mae'n siwr bod swydd y Comisiynydd wedi'i chreu ar ôl i Anabledd Cymru
gyhoeddi "Anabledd ac iaith - canllawiau defnyddio terminoleg anabledd" o
waith Lowri Williams a Delyth Prys (ISBN 1 903396 01 8) yn 2001, achos dyw'r
ymadrodd ddim yn yr eirfa honno, ond mae'r canllawiau yn glir, ar dudalen 7:
"Peidiwch â defnyddio *yr anabl*".
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 26, 2003 2:30 PM
Subject: Re: Disability Rights Commissioner for Wales
> Gellid hefyd ddweud 'Comisiynydd Hawliau'r Anabl i Gymru' neu 'Comisiynydd
> Cymru Hawliau'r Anabl'.
>
> Berwyn
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, February 26, 2003 1:09 PM
> Subject: Disability Rights Commissioner for Wales
>
>
> > Oes unrhyw un yn digwydd gwybod 'y' teitl swyddogol, am mai hawliau'r
> anabl
> > sydd o dan sylw, yn hytrach na hawliau anabledd. Comisiynydd Hawliau'r
> Anabl
> > yng Nghymru?
> > Diolch
> > Gwen
> >
> >
>
|