Y 'tag' sy'n achosi'r broblem imi. Ystyr 'Tag' (i mi beth bynnag) yw
rhywbeth a ddefnyddir o fewn HTML a ieithoedd tebyg (XML ac ati) i gynnal
gwybodaeth ac i ddweud wrth y meddalwedd beth i'w wneud gyda'r wybodaeth
honno (er enghraifft sut i'w dangos ar y sgrîn).
Dw i wedi bod i'r dudalen dan sylw i weld a allaf i weithio allan beth yw
ystyr 'tag' yn y cyd-destun arbennig hwn a heb ddod o hyd i 'Tag for delete'
ar fersiwn Saesneg y dudalen, na dim byd yn debyg iddo.
Mae'n bosibl ei fod yn meddwl y broses o nodi ffeiliau i gael eu dileu - os
felly gellir defnyddio rhywbeth fel "Tagio ar gyfer eu/ei dileu"
Yr unig bosibilrwydd arall y gallaf i feddwl amdano yw ei fod yn perthyn i
iaith sgriptio neu iaith gyfrifiadurol - ac nid oeddwn i'n gallu dod o hyd
iddo yn Google. Os yw'n perthyn i ryw iaith gyfrifiadurol ni fyddwn i'n ei
gyfieithu gan ei fod yn orchymyn cyfrifiadurol ac ni fydd y rhaglen yn deall
y cyfieithiad.
Efallai y byddai modd i Aled esbonio'n fwy manwl inni beth yn gymwys yw
ystyr y Saesneg
Muiris
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 27, 2003 6:17 PM
Subject: Re: Tag for delete
Yn ôl a ddeallaf i, mae 'tag' yn gyfystyr â rhif cofrestru neu gyfeirnod
rhyngrwyd y darparwr sy'n cynnal gwefan (neu rywbeth felly!). Beth am
'Cyfeirnod i'w ddileu' neu hyd yn oed 'Tag i'w ddileu' gan fod 'tag' yn cael
ei gynnig yn Gymraeg yng Ngeiriadur yr Academi. Wn i ddim am unrhyw derm
arall sydd eisoes yn bod.
Garmon.
Garmon Davies
Ewrolingo
01656 668603
www.ewrolingo.co.uk
----- Original Message -----
From: "Aled Betts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 27, 2003 4:21 PM
Subject: Tag for delete
> Cyfieithiad ar gyfer tudalen "Awgrymwch adnodd" porth testunol Cymru ar y
We
> http://www.cymruarywe.org
>
> Angen cyfieithiad Cymraeg ar gyfer
>
> "Tag for delete"
>
> Diolch yn fawr
>
> Aled
>
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.459 / Virus Database: 258 - Release Date: 25/02/03
|