Dw i ddim yn siwr a ddylid derbyn term yn unig am ei fod wedi ennill ei
blwyf. Yn achos 'hafan' yn yr ystyr o dudalen gartref ar y we, nid yw'n
'adlewyrchu nodweddion y cysyniad' i gael dyfynu un o feini prawf safoni
termau ISO 704 - h.y. nid yw ei ystyr yn glir. Mae 'hafan' yn awgrymu (o'i
gymryd yn drosiadol) fan diogel i lochesu ynddo - yn anffodus, does dim byd
arbennig o ddiogel am y dudalen gartref (yn enwedig os ydych chi'n
defnyddio Internet Explorer medd un o'm cydweithwyr, ond awn ni ddim ar ol
y sgwarnog yna). Does dim rhaid i'r term fod yn hir, mae 'cartref' yn
ddigon fel botwm (heb y 'tudalen').
Rwy'n meddwl ei bod hi'n arbennig o bwysig gyda thermau cyfrifiadurol ein
bod yn diogelu cywirdeb cysyniadol y termau hyn yn y Gymraeg. Termau eraill
sy'n cael eu camddefnyddio yw 'arbed' am 'save' yn hytrach na 'cadw' (yr
ystyr yw rhoi rhywbeth i gadw ar y cyfrifiadur, nid 'save' fel yn 'rescue')
a 'dadlwytho' am 'download' yn hytrach na 'llwytho i lawr' (mae'r deunydd
sy'n cael ei lwytho i lawr yn dal ar y safle gwreiddiol i'r person nesa
ddaw heibio lwytho copio ohono oddi ar y we hefyd, mae 'dadlwytho' yn
awgrymu fod y deunydd ei hun wedi'i symud o'r safle.
Delyth
|