Oes, mae lle i fod yn drosiadol. Onid oes modd cael 'pren mesur plastig'?
Ken Owen
Marian-glas
----- Original Message -----
From: CATRIN.ALUN <[log in to unmask]>
To: Ken Owen <[log in to unmask]>
Sent: 06 February 2003 12:29
Subject: Re: general practice
Onid oes lle i'r trosiadol yn yr iaith bellach? Siawns bod 'meddyg teulu'
yn berthnasol ym mhob maes, gan mai'r 'teulu dynol' sydd dan sylw!!! :o)
Mae'n GAS gen i ymarferydd cyffredinol!! (y term, nid y person)
Catrin
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 06, 2003 11:05 AM
Subject: Re: general practice
O'r ychydig bach wi'n wbod am y maes, mae general practitioners o sawl math
i'w cael -
general medical practitioners
general dental practitioners
general optical practitioners
a does dim byd i ddweud mai ymdrin ā theuluoedd y bydd unrhyw un o'r rhain.
Er enghraifft, gallwch gael GP mewn ysbyty, neu mewn carchar, neu mewn
ysgol, a fydden nhw byth yn dod ar draws "teulu" fel y cyfryw. I fodloni'r
math o feini prawf y mae termau technegol i fod i'w bodloni, mae angen
meddwl y tu hwnt i ddweud "meddyg teulu", "deintydd teulu" etc.
Mae gan y Cynulliad sawl gorchymyn a sawl set o reoliadau erbyn hyn lle mae
ymadroddion fel "ymarferydd cyffredinol" ac ati yn digwydd i gyfateb i
"general practitioner" a'r gweddill.
Does neb yn disgwyl i siaradwyr cyffredin yn y stryd alw GP yn "ymarferydd
cyffredinol" - gwnaiff "meddyg teulu" y tro yn y fan yna, ond lle i drafod
termau *technegol* yw hwn, nage heol bentre!
----- Original Message -----
From: "Dean Baker" <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 06, 2003 10:40 AM
Subject: Re: general practice
beth sy'n bod ā
mynd yn ddeintydd teulu
mynd i faes deintyddiaeth gyffredinol
mynd i faes deintyddiaeth deuluol??
deano
Dean Baker
Rheolwr Datblygu Dwyieithrwydd a Phennaeth Cyfieithu
Bilingualism Development Manager and Head of Translation
01554 748115
___________________________________________________________
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau atodedig yn gyfrinachol
ac at sylw'r unigolyn neu'r sefydliad a enwir uchod. Bydd
unrhyw farn neu sylwadau a fynegir yn perthyn i'r awdur yn
unig ac ni chynrychiolant o anghenraid farn Coleg Sir Gār.
Os ydych chi wedi derbyn yr e-bost hwn ar gam, rhowch sylw
i'r gweinyddwr ar y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
This email and any files transmitted with it are confidential
and intended solely for the use of the individual or entity to
whom they are addressed. Any views or opinions expressed
are solely those of the author and do not necessarily represent
those of Coleg Sir Gār. If you have received this email in error
please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
___________________________________________________________
This e-mail has been scanned for viruses by MessageLabs.
|