Anfonais gais am gyngor at Bethan Roberts yn y BBC. Dyma'r ateb sydd newydd
gyrraedd:
"Ar o^l trafod yn fanwl efo criw'r adran chwaraeon (John Hardy a Dylan
Griffiths yn bennaf!), maen nhw'n osgoi cyfieithu'r term yn uniongyrchol.
Pan fydd "sudden death" yn digwydd, maen nhw'n dweud "Cynta' i Sgorio" ...
Maen nhw'n deud 'go^l euraidd' am 'golden goal', rhag ofn y bydd hynny'n
codi! Sori nad oes gynnon ni ateb syml, ond gobeithio y bydd hyn o help."
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Menna Davies" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 22, 2003 12:52 PM
Subject: Re: Sudden death
Ein bai ni yn Uned Gymraeg Cyngor Sir Powys yw'r 'sudden death' hwn!
Galwad ffon gawsom ni gan rywun, ac yn anffodus ni wnaethom ofyn iddi
ymhelaethu. Roedd hi'n hapus gyda'r 'cyntaf i sgorio' - sori am achosi'r
holl benbleth i chi a diolch am fynd mor ddwfn i mewn i'r mater.
Menna.
----- Original Message -----
From: <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 22, 2003 12:24 PM
Subject: Re: Sudden death
Dwi a fy nghyfaill Robin wedi bod wrthi drwy'r bore'n dioodef - bai pwy
oedd 'sudden death'???/??/
Beth am: 'sgôr fantol'?
Dilwyn
|