Wedi bod yn Ysbyty Gwynedd heddiw am driniaeth lawfeddygol fechan (ga' i
godi i'r ffenast yn' bora). O ddeall fy mod yn gyfieithydd, dyma un o'r
nyrsus yn adrodd hanes protestiadau a gafwyd gan y staff Cymraeg, rai
blynyddoedd yn ôl, o weld arwydd yn cael ei osod gyda'r term 'Henoed
Dryslyd' yn gyfieithiad am yr ymadrodd uchod. Roeddynt yn teimlo bod y
gair 'dryslyd' yn gryn sarhad.
Bu'n rhaid i mi gyfaddef, gydag embaras, fod y cyfieithiad wedi bod yn un
eitha' safonol, a 'mod i wedi ei ddefnyddio fy hun sawl tro ar ôl cael hyd
iddo yn rhywle swyddogol. Ond wela' i ddim cyfieithiadau o gwbl o'r term
yn "Termau Hybu Iechyd" na "Termau Nyrsio a Bydwreigiaeth".
Unrhyw syniadau, er mwyn achub enw da'r proffesiwn?
Wyn
|