Feiddiwn i ddim mentro ar drafodaeth academaidd am gyfieithu hefo'r rhan
fwyaf o aelodau'r cylch - dwi ddim yn yr un cae a nifer helaeth
ohonoch - ond mae deunydd fel hwn yn agos at fy nghalon. Ai taflenni
gwybodaeth i gleifion yw'r rhain Ann? Os felly, anghofiwch y Saesneg yn
gyfangwbl a rhowch eich hun yn sefyllfa'r claf cyffredin neu aelod o'i
deulu - sy'n trio deall rhywbeth am y salwch annifyr, newydd ma
(newydd, neu fyddech chi ddim yn trafferthu darllen taflen wybodaeth, na
fyddech!) Mae diagnosis ambell i salwch yn ddigon o sioc heb geisio
cymryd y manylion i mewn hefyd.
Felly, gallu a phallu yn wych - ac ydio ots os yw'r Gymraeg yn hollol
wahanol i'r Saesneg o ran trefn a fformat a chyfieithu pob gair cyn
belled ag y bo'r wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chyfleu? Oes isio
phenomenon o gwbl? Nid yw gallu a phallu yn amhendant o gwbl, yn enwedig
pan fydd y cyd-destun yn cyfeirio at symud. Dywedwch wrth eich cleient
fod ei Saesneg yn ddel iawn ac yn llwyddo i gyfleu cyflwr uffernol gyda
hiwmor bron - sydd ddim yn ddrwg o beth - ond wnaiff yr holl beth mo'r
tro yn Gymraeg o gwbl.....
Os mai arall yw'r gynulleidfa - mae gallu a phallu yr un mor addas - a
bydd yn haws defnyddio geiriau mawr ar ei chyfer.......
Mae'n syndod bod gen i unrhyw gleientiaid, wir - tydyn nhw ddim yn cael
dweud beth mae nhw isio hanner yr amser...........Magi'n gwybod yn
well - rial hen fydwraig......
Cofion magi
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, January 05, 2003 12:28
Subject: On/Off Phenomenom
> Mewn perthynas a chlefyd Parkinson o hyd, dyma'r disgrifiad:
>
> On/Off Phenomenon This phenomenon is a characteristic of some, but by
no
> means all, people with long-standing Parkinson's. It can best be
described
> as an unpredictable shift from mobility - 'on' - to a sudden inability
to
> move - 'off'. 'Off' to 'on' can occur just as suddenly. Some people
have
> likened it to a light switch being turned on and off.
>
> Mae Bruce yn dweud nad oes fawr o ystyr i "Ffenomen I Ffwrdd/Ymlaen",
ac yn
> ffansio "Ffenomen Gallu a Phallu"! - a finnau hefyd, ond a yw'n rhy
> amhendant? Mae'n beth od os na ddefnyddir rhywbeth yn y Gymraeg
eisoes -
> cyfieithiad llythrennol yn fwy na thebyg, yn anffodus.
>
> Beth yw'ch barn? A glywsoch chi unrhyw beth arall?
> Diolch yn fawr am bob cymorth.
>
> Ann
|