Llawer o ddiolch am yr awgrymiadau - a hynny mor gyflym hefyd.
Mae Bais Bank i'r gogledd-orllewin o Benmaen Dewi - sylwes i wrth chwilio
gynnau fod un adroddiad o leiaf ar wefan Bad Achub Tyddewi sy'n sôn amdano.
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 09, 2002 3:50 PM
Subject: Re: beisleoedd
Rhaid nad yw'r rhain yn y "North Wales Pilot", neu mi fyddant yn GyrA.
Tybed a oes gan rywun gopi o Fapiau Mor Lewis Morris? Mae Bruce yn methu
dod o hyd i'w gopi. Cofiwch felly mai *awgrymiadau* yn unig yw'r canlynol:
> Four Fathom Bank (Bae Conwy) Cefn y pedwar gwrhyd
> Bastram Shoal (i'r de o Aberdaron) Basle Bastram
> Devil's Ridge (ditto) Cefn y cythraul
> Wild Goose Race Ffrwd yr wydd wyllt (Pa beth yw? cerrynt? craig?
cefnen?)
> Helwick Bank (oddi ar Borth Tywyn) Cefn Helwig
> Turbot Bank (y de-orllewin eto) Cefn twrbot
> Bais Bank - a yw'r enw hwn yn gywir? ble?
> Tripods - ble? pa beth ydynt? maen nhw'n swnio fel creigiau? Cerrig
trybedd? Gweler isod:
Cefnen o dywod yw 'shoal/bank/basle'. Nid yw'r un peth a
'reef/rock/carreg/cerrig'.
Bruce
----- Original Message -----
From: David Bullock <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 09, 2002 2:47 PM
Subject: beisleoedd
> Oes yna forwyr yn ein plith tybed - rhywun sy'n gwybod enwau Cymraeg y
> canlynol, sydd i gyd yn y môr o amgylch Cymru:
>
> Four Fathom Bank (Bae Conwy)
> Bastram Shoal (i'r de o Aberdaron)
> Devil's Ridge (ditto)
> Wild Goose Race
> Helwick Bank (oddi ar Borth Tywyn)
> Turbot Bank (y de-orllewin eto)
> Bais Bank
> Tripods
>
>
|