Er ein bod ni'n gwybod am y camgymeriad hwn, diolch am roi gwybod. Fel sy'n
digwydd mewn achosion fel hyn, bydd camgymeriadau i'w gweld ar y cychwyn ac
fe awn ni ati cyn hir i'w cywiro. Mae bloc o liw wedi ymddangos mewn man lle
na ddylai fod, a cheir cyfeiriad at 'y Bwrdd' mewn man arall heb ddangos mai
'Bwrdd yr Iaith' sydd dan sylw (y bwriad oedd cynnwys y logo rywle yn ymyl y
geiriau).
Yn fy ngeirfa i, mae'r to bach wedi diflannu ar 'w' ac 'y' o ganlyniad i
newid rhwng dwy system, ond rwyf wedi mynd drwy'r testun ac wedi nodi pobman
(gobeithio!) lle y dylai'r to bach fod. Caiff hwn hefyd ei gywiro cyn hir.
Os sylwch chi ar unrhyw wallau eraill, defnyddiwch eich 'know-how' (er mwyn
i mi fod yn destunol!) i roi gwybod amdanyn nhw i Nia yn
[log in to unmask] Fe ga^n nhw eu cynnwys maes o law.
Gan obeithio y bydd y wefan o ddiddordeb ac o ddefnydd i chi, yn enwedig
wrth iddi dyfu dros y blynyddoedd nesaf,
Diolch eto
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 02, 2002 8:44 AM
Subject: Re: know-how
> On Mon, 2 Dec 2002 08:11:39 -0000, Berwyn Jones
> > ... ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef.
> > http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/default_cymraeg.asp
>
>
> "Neywddion eraill"
>
> =:)
>
>
|