Person - term technegol mewn gramadeg a diwinyddiaeth (tri pherson y
Drindod) yn unig - dyna sut y cefais fy nysgu gan Bruce, neu, fel y mae
newydd egluro imi, pan fo'n golygu 'corffolaeth' neu 'gorff' (he had some
small change about his person). Dywed hefyd, wedi darllen neges David, mai
'unigolyn' y byddai fo yn ei ddefnyddio i gyfieithu 'person' yn yr ystyr
gyfreithiol. Ar ben hynny, nid yw'r ddadl gyfreithiol yn gymwys ar gyfer y
lluosog, 'persons'.
Ann
----- Original Message -----
From: H.K.Smith <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 03, 2002 4:49 PM
Subject: Re: Disabled Persons (Employment) Act (1944 & 1958)
> "Cof am y cyfiawn Iesu
> Y person mwyaf hardd" !!!!!
>
> David Bullock wrote:
> >
> > Efallai ei bod yn werth cofio bod y gyfraith sydd - er gwell neu er
gwaeth -
> > yn llywodraethu'n gwlad yn defnyddio'r gair Saesneg 'person' yn bendant
> > iawn, ac mae bod yn 'person' yn llygaid cyfraith Cymru a Lloegr yn dwyn
> > hawliau a rhwymedigaethau neilltuol nad ydyn nhw'n effeithio ar
> > 'corporations', 'associations' 'companies' ac ati, sy'n bethau â statws
pur
> > wahanol yn y gyfraith. Ac maen nhw'n dweud wrtha i fod ystyr 'persons'
yn
> > wahanol yn y gyfraith honno i 'people' hefyd
> >
> > Nawr te, wrth weithio ym maes y gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n
rhaid
> > ymdopi â thermau fel 'person' a 'persons' a mynegi'r cyferbyniad rhwng -
er
> > enghraifft -'persons' a 'people'. Os oes gwell dull ar gael na
defnyddio'r
> > benthycair Cymraeg 'person', does neb wedi'i grybwyll ar W-T-C eto.
> >
> > (Ac wrth ddweud mai "mawr yw Iesu yn ei berson", dwy ddim yn meddwl bod
yr
> > emyn yn cyfeirio at un o staff cyflogedig yr eglwys sefydledig chwaith!)
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, December 03, 2002 3:16 PM
> > Subject: Re: Disabled Persons (Employment) Act (1944 & 1958)
> >
> > Gwn o brofiad y byddai Bruce yn dechrau holi ynghylch hawliau
Gweinidogion
> > Anabl hefyd!
> >
> > Ann
> > ----- Original Message -----
> > From: Tim Saunders <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, December 03, 2002 2:42 PM
> > Subject: Re: Disabled Persons (Employment) Act (1944 & 1958)
> >
> > > Siawns na fyddai rhyw gyfeiriad ar wefan deddfwriaeth y Cynulliad?
> > >
> > > Rhywbeth fel Deddf Personau Anabl (Cyflogaeth) (1944 1 1958), bawswn
i'n
> > > amau, sbo.
> > >
> > > Tim
> > >
> > > -----Original Message-----
> > > From: Bethan Evans [mailto:[log in to unmask]]
> > > Sent: 03 December 2002 14:38
> > > To: [log in to unmask]
> > > Subject: Disabled Persons (Employment) Act (1944 & 1958)
> > >
> > >
> > > Dwi wedi methu â dod o hyd i'r Gymraeg.
> > >
> > > Oes rhywun yn gwybod beth yw'r cyfieithiad?
> > >
> > > Diolch yn fawr
> > > Bethan
> > >
> > >
>
> --
> H.K.Smith [log in to unmask]
> H.K.Smith [log in to unmask]
>
|