Glenys Roberts
> Oes rhywun yn ffansio cynnig rhywbeth am hwn? Neu ei egluro (yn gryno a
syml iawn!)? Brawddeg am wefan - 'using a server-side-include style syntax
known as Document Template Markup Language (DTML).'
"server-side"
Hynny yw ar y gweinydd yn hytrach nag ar y cleient
"include (style) syntax"
Dull o dynnu cynnwys ffeil A mewn i ffeil B ar y pryd i greu ffeil
gyfansawdd trwy roi cyfeiriad at ffeil A yn ffeil B.
Yn aml iawn mae'n cael ei ddefnyddio i osgoi copio darn safonol o destun neu
god mewn i ffeiliau newydd.
"markup language"
Mae "iaith farcio" wedi cael cymeradwyaeth ar y rhestr yn y gorffennol
|