> Ond mae eisiau term penodol i signal a dderbynnir trwy'r erial. Mae modd
> cael signal digidol am ddim trwy ddulliau eraill megis lloeren. [ Mae o
> leiaf un safle ar y we yn defnyddio "rhydd i'r awyr". ]
Mae'r ITC yn defnyddio 'free-to-view' sy'n golygu unrhyw sianel sydd
ar gael yn rhad ac am ddim drwy loeren, erial neu gebl, analog neu
ddigidol.
Yr unig wahaniaeth rhwng hwn a 'free-to-air' yw fod y term cyntaf wedi
ei anelu at y cwsmer am ei fod yn derm sy'n haws i'w ddeall. Y
diwydiant sy'n dueddol o ddefnyddio FTA.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|