Alison Reed:
>Sut byddwn i'n mynd ati i ddod o hyd i safleoedd perthnasol fel yr un isod
>ar y We?? Defnyddio "Google" a theipio'r gair "Cymorth Cyntaf"?? Rwy'n siwr
>bod defnyddio'r We fel hyn o gymorth i ni gyfieithwyr!
Yn yr achos hwn defnyddiais Google gyda'r geiriau "cymorth cyntaf recovery"
gan dybio y byddai safle cyfrwng Cymraeg yn cynnwys y term yn Saesneg hefyd
gan ei fod mor adnabyddus.
Os nad oes syniad 'da fi am y Gymraeg rwy weithiau yn cael llwyddiant trwy
roi'r term yn Saesneg ynghyd a'r geirynnau "yn yr" - sy'n cael gwared a'r
rhan fwyaf o ddogfennau heb unrhyw Gymraeg ynddyn nhw ee "broadband yn yr".
|