Dau lyfryn defnyddiol arall sy'n ymwneud â maes iechyd yw Termau Hybu Iechyd
(Y Ganolfan Safoni Termau, 2000) a Gair i Glaf, (gol J Elwyn Hughes, 1999),
sef casgliad o ymadroddion i'w defnyddio wrth drafod gyda chleifion. (Fel
mae'n digwydd, dyw 'recovery position' ddim i'w weld yn y naill na'r llall,
ond mae'n werth eu cadw wrth law.)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Alison Reed" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 22, 2002 12:18 PM
Subject: Re: recovery position
Diolch i chi gyd am ymateb mor gyflym - ac am gynnig sawl ffynhonnell
ddefnyddiol iawn.
Yn bersonol, mae'n well gen i'r gair "safle" yn hytrach nag "ystum" a
defnyddio "adfer" yn hytrach nag "adferol" - a chadw at fy nghynnig
gwreiddiol sef "safle adfer" (gan ddilyn cynnig y Cynulliad).
Sut byddwn i'n mynd ati i ddod o hyd i safleoedd perthnasol fel yr un isod
ar y We?? Defnyddio "Google" a theipio'r gair "Cymorth Cyntaf"?? Rwy'n siwr
bod defnyddio'r We fel hyn o gymorth i ni gyfieithwyr!
> ----------
> From: Neil Shadrach[SMTP:[log in to unmask]]
> Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
> Sent: Friday, November 22, 2002 11:59 AM
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: recovery position
>
> On Fri, 22 Nov 2002 11:27:27 -0000, Alison Reed
> <[log in to unmask]>
> wrote:
>
> >Yng nghyd-destun cymorth cyntaf - safle adfer/adfywio?
> >
> >All unrhyw un gynnig ffynonellau/rhestrau termau sy'n ymwneud â chymorth
> >cyntaf - a sut i gael copi o'r rhain os ydynt ar gael?
> >
> >Byddwn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth.
>
> "ystum adferol"
> http://www.consumereducation.org.uk/health/cymraeg/iechyd/06.htm
>
|