Sylwadau ar sylwadau Ken. Mae'n ffaith nad yw Cymraeg llawer iawn o
Gymry Cymraeg, gan gynnwys plant mewn ysgolion Cymraeg, cystal â'u
Saesneg - heb fynd ar ôl y rhesymau. Weithiau, dim ond drwy aralleirio
a symleiddio'n enbyd mae rhywun yn gallu cyfleu rhywbeth tebyg i'r
gwreiddiol. O'i gyfieithu yn unig, hyd yn oed i Gymraeg sydd yn
ramadegol dderbyniol, fyddai llawer o'r darllenwyr ddim yn ei ddeall.
Mater o addysgu yw hynny ac mae'n cymryd amser.
Felly nid yw'r farn am gyfieithydd 'gwerth ei halen' yn sefyll ar
sylfaen solet. Rhaid penderfynu beth yw'r nod - cyfleu ystyr neu
gyfieithu. Mater o ffaith yw bod rhaid i rai droi at y Saesneg, nid am
fod y cyieithiad yn 'fethiant' ond oherwydd nad yw'r Gymraeg wedi cael
ei phriod le hyd yn hyn.
|