Fy ymateb cynta i oedd bod 'Tregoze' yn swnio'n debygach i enw Cernyweg neu
Lydaweg, ond cofiais wedyn am bentre Bishop's Lydeard ger Taunton yng Ngwlad
yr haf ... Go brin y byddai gan esgob 'dregors' - hawliai fwy na hynny.
Dyma'r esboniad a gefais mewn gwefan am y pentre:
Although the name is now spelt Lydiard Tregoze, according to John Jackson
(in the John Aubrey book) it has gone under various names over the years:
"Lydiard Tregoz, or South Lydiard, is in the old Hundred of Blackgrove, now
included in Kingsbridge. The name occurs in a multitude of forms: as,
Lydeyerd, Lidegherd, Lideyert, Lidiarde, Lydyarde, Lydeyarde, Lidyard,
Ledyerd, Lydeard, Liddiard, Ladyhart, Lidyhart and Lediar. The derivation
is Anglo-Saxon; from Leod, people, and geard, enclosure."
Dau bwt o ddoethineb o Fangor:
Dywedodd Dr Enid Pierce Roberts wrthym fod 'llidiart' yn tarddu o ffurf
Saesneg gynnar ar 'floodgate' (ac mae Geiriadur y Brifysgol yn cadarnhau
hynny).
'Byddai Syr Ifor yn arfer dweud mai dim ond ffw^l sy'n ceisio esbonio enwau
lleoedd,' meddai'r Athro Melville Richards wrthym a^ gwe^n fawr ar ei wyneb
...
Dyddiau Bangor - i ble'r aethon nhw, tybed!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 19, 2002 2:22 PM
Subject: Lydiard
> Ar y teledu yn ddiweddar, cyfeiriad at Lydiard Tregoze, Wiltshire. Onid
> Llidiart Tregors yw/oedd yr enw yn wreiddiol?
>
>
|