Rai misoedd yn ol daeth galwad ffon at y ddau ohonom, ynghylch trefnu cael
ein henwau fel cyfieithwyr ar ryw restr ar wefan. 'Doedd gennym ddim
diddordeb, ond 'roedd yr hogyn mor ddaer, fel cytunais dderbyn gwybodaeth y
cwmni. Rhaid cyfadde, ar ol gweld bod rhaid inni dalu am gael ein cynnwys,
ches i ddim amser i ddarllen yr holl bapurau'n iawn, na'r ail apel, a ddaeth
rai wythnosau/misoedd wedyn.
Bore 'ma, daeth bil aelodaeth 4 mis - 120,00 Eur, sef £80! Caf bleser mawr
yn dweud
wrth y cwmni - a pha awdurdod bynnag sy'n ymwneud a phethau fel hyn - yr hyn
dw i'n ei feddwl amdanynt.
Mae'n ddigon hawdd i gwmni bach sylwi ar rywbeth fel hyn OND - a ydych CHI'n
gweithio i sefydliad efo adran gyfieithu, neu ydych yn rhan o asiantaeth?
Efallai byddai'n werth cael gair a phwy bynnag sy'n talu'r biliau, rhag ofn
i fil tebyg gael ei dalu heb ei wirio'n iawn. 'linkage tech' o Berlin yw'r
cwmni, a 'Translators on the Web' yw'r wefan.
Cofion,
Ann Corkett
5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK
(01248) 371987
[log in to unmask]
|