Diolch am yr esboniadau. Y broblem, wrth gwrs, yw nad yw'r term Saesneg yn
esbonio'r broses y mae'n ei disgrifio.Y dewis felly yw bathu term sydd yr un
mor ddi-arwyddoca^d a^'r un Saesneg, neu fathu term sy'n cyfleu'r broses. O
wneud yr olaf, a fyddai 'cyswllt/cysylltiad cydweddu' yn werth ei ystyried?
Er gwybodaeth i'r rhai sydd heb weld yr eirfa yn [log in to unmask], 'cysylltiad
poeth?' yw/oedd cynnig Dafydd Tomos a 'cyswllt chwilboeth' yw/oedd un Medwyn
Jones.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Neil.shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, November 18, 2002 5:45 PM
Subject: Re: shortcut
> Berwyn Jones:
>
> > Dwi wedi bod yn defnyddio 'cyswllt cyflym' am 'hotlink'. Ydy hynny'n
> anghywir, ac os yw e'n anghywir, beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau?
>
> 'hotlink'
> Dull o rannu data rhwng cymwysiadau sy'n sicrhau bod newidiadau gan un yn
> ymddangos yn y llall ar unwaith.
> cyswllt deinamig/byw?
>
> 'shortcut'
> Ffordd o ddechrau cymhwysiad, o bosib gyda gosodiadau penodol, fel arfer
> trwy ddewis icon. Yn aml iawn mae symbol fel saeth ar yr icon i ddynodi
mai
> 'shortcut' yn hytrach na chyswllt uniongyrchol yw e.
>
|