Fe godais y pwnc hwn yng nghyfarfod Cymdeithas Melinau Cymru yng
Nghas-Newy' yr wythnos wedyn (cyd-ddigwyddiad rhyfedd!). Fe gyrhaeddodd
ateb heddiw drwy'r caredigrwydd cadeirydd y Gymdeithas, Gerallt D Nash
(Amgueddfa Werin Cymru):
jack stick neu jack staff ... naill ai "tramwel"/"tremwal" neu "pren unioni"
Theo
O.N. - Mae tudalen "Molinological Terms - Termau Melinyddol" yn
"CMC/WMS Newsletter Rhif/No. 60 Ebrill/April 2000"
>17:42 17/10/02 +0100, Gwen Evans:
>Felinwyr!
>Teclyn melinydd blawd. Mae ei lun o yma - teclyn pren, pluen wen ar un pen
>iddo, tua dwy fodfedd ar draws, naw modfedd o hyd, siâp llafn- un pen yn
>fain ond heb fod yn bigog, y pen arall yn fflat gyda thwll sgwâr ynddo. Ei
>bwrpas?- trin y meini melin. Dwi'n credu ei fod yn cael ei ddefnyddio i
>fesur y gofod rhwng y ddau faen melin cyn eu hunioni. (Nid yr un peth â
>chyfegydd = 'mill-bill' sy'n 'pigo''r meini)
|