Dwi ddim yn cofio lle gwelais i 'cyrchull' gyntaf, ond dwi yn cofio ei
fod mewn gwaith safonol a'm bod wedi ei weld nifer o weithiau ers hynny
- nid fi sydd wedi ei fathu, ac mae'n rhaid imi gyfaddef na wela i ddim
byd o'i le ynddo. Mae'r Gymraeg yn hoff iawn o gyfansoddeiriau ac mae
'cyrchu' a 'dull' yn ddigon cyffredin. Mae'n hawdd gweld yr ystyr -
dull o gyrchu - of approaching [something].
Baswn i'n meddwl fod y meddwl Cymraeg yn gallu gweld ystyr y peth bron
yn syth, ond mae canlyniad chwiliad Google yn awgrymu mai 'ymdriniaeth'
sydd wedi dod yn naturiol i feddwl cyfieithwyr eraill.
|