13:51 01/11/02 +0000, ysgrifennodd Dafydd Tomos:
>...'free-to-view'...
>Yr unig wahaniaeth rhwng hwn a 'free-to-air' yw fod y term cyntaf wedi
>ei anelu at y cwsmer am ei fod yn derm sy'n haws i'w ddeall. Y
>diwydiant sy'n dueddol o ddefnyddio FTA.
Ymddiheuriadau am ateb yn hwyr, ond...
Ym maes lloeren, mae gwahaniaeth rhwng
FTA - "rhydd i'r awyr" - heb ei sieffro
(mewn egwyddor fe all unrhyw dderbynnydd lloeren dderbyn rhaglenni "FTA";
megis S4C2, BBC R Wales, BBC R Cymru oddi wrth loeren Astra 2)
a FTV - "rhydd i'w wylio"
- wedi'i siffro er mwyn sicrhau hawliau, gyda chaniata+d dehongli ar gael am
ddim i'r rheiny wedi'u cofrestru.
(rhaid cael teclyn penodol ar gyfer "FTV";
e.e. er mwyn gwylio/gwrando ar S4C, BBC Radio 5 Live, neu BBC Radio 5 Live
Sports oddi wrth loeren Astra 2, rhaid cael bocs Sky a+ cherdyn "Sky" neu
gerdyn "BBC" )
Rhagor ar:
http://www.btinternet.com/~c.vowles/Sat/SkyFTA.htm
http://www.btinternet.com/~c.vowles/Sat/SkyFTV.htm
Ar ran ystyr, dydy "Digidol-am-ddim" yn iawn i mi - gan fod pawb yn gwybod
bod rhaid talu am dderbynnydd digidol rywsut, a hynny yn ddrud, celwydd
golau ydy'r adrodd.
Felly , byddai "Derbyniad di-doll" neu "Derbyniad di-da+l" yn well i mi, os
nad
oes rhaid gwahaniaethu rhwng FTA a FTV.
--
Theo Brueton
Dyddiadur Llundain:
http://www.anoeth.demon.co.uk/digwyddiadur.html
|