Mae biwrocratiaid o bob math yn hoff iawn o'r gair 'mewnbwn', e.e.
'Croesewir eich mewnbwn' sef, o'i gyfieithu, 'Cewch chi ddweud beth bynnag a
fynnoch, ond fel hyn mae pethau yn mynd i fod'.
Tim
-----Original Message-----
From: J.P.M.Jones [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 02 October 2002 16:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: input
Mae'r Termiadur yn rhoi ymhlith sawl 'input':
input (=information fed into a computer) n mewnbwn eg mewnbynnau
_______________________________________________
Cofiaf i mi dderbyn llythyr oddi wrth Awdurdod Addysg, nid anenwog, yn sôn
am gynhadledd yr oeddwn yn mynd iddi. Yr oedd y llythyr yn honni eu bod am
'negydu eich mewnbwn'.
Ymboenais yn ddirfawr.
Chwiliais mewn geiriaduron, a mawr oedd fy rhyddhad pan sylweddolais mai'r
cwbl oeddynt am ei wneud oedd 'trafod eich cyfraniad'.
Prys
--
_______________________________________________
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Prifysgol Cymru - Bangor - University of Wales
Trefenai
Ffordd Caergybi
BANGOR
Gwynedd
LL57 2PX
tel: 01248 382955/383013/351151
ffacs: 01248 383990
_______________________________________________
|