Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o gwmniau wedi dod i feddwl yn
fwy cadarnahol ynglyn a defnyddio'r Gymraeg fel rhan allweddol o'i
gwasanaethau cyhoeddus ond dwi'n cael y teimlad mai ymdrech warafus yw
hyn fel arfer.
Beth sy'n waeth yw nad yw'r ymdrech i ddefnyddio testun Cymraeg cywir
yn derbyn yr un pwysigrwydd a'r ymdrech i ddefnyddio Saesneg cywir. A
fel mae'r Sais yn dweud "everyone's an expert" felly mae yna dueddiad
i'r 'Welsh expert' yn y swyddfa roi ei bysedd budr dros unrhyw gopi
Cymraeg sydd yn cael ei gynhyrchu gan adrannau cysylltiadau cyhoeddus
neu farchnata.
Os nad ydych wedi sylweddoli, rant ydi hwn am gwmniau sydd ddim yn
gallu derbyn cyngor ar gyfieithiadau cywir ac yn mynnu creu rhyw
dermau neu ramadeg gwirion eu hunain.
Efallai hoffech chi ymweld a gwefan newydd ei ail-lawnsio gan drenau
Wales & Borders i'w llongyfarch am yr ymdrech ond nodi y Gymraeg gwallus:
http://www.walesandborderstrains.co.uk/cym/
e.e. cyfieithu business -> bisnes
to bach ar yr y yn gwefan
a dwi'n siwr allwch chi ddarganfod rhyw berlau arall.
Mae ffurflen adborth fan hyn:
http://www.walesandborderstrains.co.uk/cym/help/contact3.php
Dylech wybod fod y prif destun wedi ei gyfieithu yn 'broffesiynol'
(efallai wnaethoch chi gyfrannu) ond mae nifer o'r gwallau a'r
anghysondebau wedi ei creu gan W&B.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|