Pe fedrwch anfon difiniadau'r termau sydd gennych, neu *o leiaf * y
brawddegau sy'n eu cynnwys, i roi cymaint o syniad o'r ystyr ag y bo modd,
bydd Bruce yn gwneud ei orau.
OND 'dyn ni'n mynd i ffwrdd ar ol cinio yfory (dydd Mercher) a fydd dim modd
i mi godi fy negeseuon e-bost am rai dyddiau, felly anfonwch cymaint ag y
medrwch cyn cynted ag y bo modd. Anfonwch at y cyfeiriad isod, os liciwch,
gan gynnwys cyfeiriad e-bost a *rhif ffon*, fel y gallem gysylltu a chi nes
ymlaen os oes rhaid.
Ann
5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK
(01248) 371987
[log in to unmask]
----- Original Message -----
From: Melanie Davies <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 10, 2002 4:11 PM
Subject: termau adeiladu
> A oes gan unrhyw un awgrymiadau ar gyfer ble i ddod o hyd i dermau
> adeiladu. Mae llawer o eiriau'n peri trafferth inni hyd yn oed ar ôl pori
> trwy Eiriadur yr Academi ac yn Termau Adeiladu'r Ganolfan Astudiaethau
> Iaith. Un o'r geiriau yw fines sy'n ymddangos mewn brawddeg fel a ganlyn:
>
> Specify the sort of subsoils which are appropriate for making clay lump
> construction:
> Soils similar to East Anglian boulder clays, containing a larger clay and
> fines fraction than cob earth.
>
> Mae termau eraill yn cynnwys green hard, frogged bricks, dogtoothing,
> hatching a glass tell tales i enwi ond rhyw ychydig.
>
> Byddem yn ddiolchgar iawn i gael unrhyw awgrymiadau.
>
> Melanie Davies
>
|