Byddwn i'n glynu wrth 'canolig' yma. Bydd yr ystyr yn gliriach na phetai dyn
yn defnyddio 'lled' neu 'eithaf' (fairly, pretty, quite). Ond ymgadwer rhag
dweud 'y canolig yw'r neges' ...!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 27, 2002 3:11 PM
Subject: medium/high
Cyfeirir at 'medium/high likelihood' a 'medium/high materiality' mewn
perthynas â risgiau. Er fy mod am aralleirio a dweud bod y risgiau hyn yn
debygol (iawn etc), oes gan unrhyw un gynnig da am 'medium'?
Lled? Eithaf?
Rydyn ni mewn cyd-destun cyfreithiol yma, felly rhaid dewis yn ofalus.
Diolch am unrhyw gyngor
Gwen
|