Rwyf wedi gweld CCA ac wedi defnyddio'r talfyriad fy hun - Cwestiynau sy'n
Codi'n Aml. Codais y term hwnnw'n wreiddiol o We-fan prifysgol arall.
Helen
Dafydd Tomos wrote:
>
> On Thu, Sep 19, 2002 at 01:58:31PM +0100, David Bullock wrote:
> > Wi wedi sylwi ar y COF yma yn fwy ac yn fwy yn ddiweddar, a meddwl ei fod yn
> > siwr o fod wedi'i greu gan bobl cyfrifiaduron, yn hytrach na phobl iaith.
> >
> > Rwy'n meddwl mai 'cwestiynau cyffredin' sy'n cael ei ddefnyddio gan yr
> > ieithgwn.
>
> Digon teg os yw'n cael ei ddefnyddio ar *wefan* - does dim rheswm o
> gwbl am ei ddefnyddio ar y we a dim ond pobl heb brofiad o'r rhwyd
> "cyn y we" sy'n dueddol o wneud.
>
> Mae FAQ yn acronym gyda pwrpas arbennigol ynghyd a nifer o acronymau
> arall ar grwpiau Usenet, lle mae FAQ, RFC, CFV ayyb yn rhan o'r
> diwylliant ac yn help i ddidoli neu farcio negeseuon penodol.
>
> --
> Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
--
H.K.Smith [log in to unmask]
|