Mae 'na lyfr mewn bodolaeth - wn i ddim a yw mewn print, ond yn anffodus,
meddai Bruce, ni all gymeradwyo pob ffurf yn y rhestr, a lle mae'n wahanol i
Eiriadur yr Academi, dylid ddilyn y Geiriadur! Y rhestr yw:
'Gwledydd y Byd'
Uned Gyfrifiadurol Gwynedd, Maesincla, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RS
(01286) 677686
Manylion yn gywir adeg ei gyhoeddi, ym mis Ebrill 1995.
Pris - £4.50
Mae'n cynnwys manylion dwyieithog ynghylch: 'Gwlad, Prifddinas,
Cenedligrwydd, Iaith, Arian, Llywodraeth'
Sylwaf fod y llyfr yn son, e.e., am 'Bolivia', 'Hercegovina', 'Maldives',
efo 'v'. Yn ol Bruce, "yn achos gwledydd nad ydynt yn defnyddio'r wyddor
Ladin i ysgrifennu eu hiaith ac enw'r wlad (e.e. Rwsia, Groeg, Tsieina,
Japan, Arabia, ayb.) nid oes esgus dros ddilyn y drawslythreniad Saesneg yn
hytrach na thrawslythreniad Cymraeg. Felly, 'Hersegofna', nid 'Hercegovina'
. Tebyg y dylid parchu ffurfiau megis 'Maldives', 'Seychelles', ayb, ond
efallai y dylid ysgrifennu 'Maldifaidd', 'Maldifiad' yn hytrach na
'Maldivaidd', 'Maldiviad', a gwell gennyf 'Seselaidd, 'Seseliad', yn hytrach
na 'Seychelaidd', 'Seycheliad'. 'Sesel' yw'r ffurf ar enw'r wlad a
ddefnyddir yno, e.e. ar rai stampiau.
"Nid oes esgus dros ffurfiau megis Kazakhstan, Uzbekistan, Turkmenistan,
Ukrain, na thros Lithuania; ffurfiau grotesg yw Quechaeg (iaith Periw),
Ukraineg, Portugaleg (Portiwgaleg sy'n gywir), ayb."
Os oes gennych ychydig enwau, neu restr lawn, yr ydych yn dymuno eu
defnyddio, croeso ichi eu hanfon at Bruce am ei sylwadau.
Ann
----- Original Message -----
From: Dafydd Tomos <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 14, 2002 4:46 PM
Subject: enwi'r byd yn gymraeg
> Oes rhywun yn gwybod lle alla'i gael gafael ar restr o enwau Cymraeg
> ar ieithoedd y byd, gwledydd y byd, trefi ac ardaloedd ?
>
> Mae geiriadur Bruce a'r atlas Cymraeg yn cynnwys nifer fawr o'r enwau
> 'dwi angen ond os nad oes ffynhonell arall ar gael yna fe wnai bostio
> rhestr fan hyn.
>
> --
> Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
>
>
|