Fe ddes i ar draws ymadrodd tebyg yn ddiweddar a theimlo nad oedd
'corfforol' na 'ffisegol' yn cyfleu'r union ystyr. Dyw 'materol' ddim - i
mi - yn taro deuddeg yn y cyd-destun yma.
Efallai y byddai osgoi cyfieithu'n llythrennol yn cyfleu'r peth yn well -
rhywbeth tebyg i 'amgylchedd y gweithle', 'amgylchedd y swyddfa/swyddfeydd'
neu 'yr amgylchedd y mae'n gweithio ynddo'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, August 26, 2002 8:23 AM
Subject: physical environment
> "How the style and philosophy of an organisation may be reflected in the
> physical environment"
> Rwy'n cymryd bod hyn yn cynnwys pethau fel addurnwaith a dodrefn etc.
> Ai 'materol' fyddai'r gair cywir am 'physical' yma?
> Sian
>
>
|