Berwyn sy'n iawn - ar y sillaf gyntaf (y goben yn yr achos yma) mae'r acen
yn 'budd-dal', yn union fel 'iawndal'. Yr unig reswm mae rhai ohonon ni'n
ysgrifennu 'budd-da^l' weithiau, yw bod rhaid dilyn arfer yr asiantaeth /
sefydliad ry'n ni'n cyfieithu iddi/iddo.
Glenys M. Roberts
ARAUL
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, August 20, 2002 10:04 AM
Subject: Re: Budd-da^l
> Dyw gosodiad ch) ddim yn gywir. bUdd-dal yw'r ynganiad arferol. Does dim
> gwahaniaeth yn yr ynganiad rhwng 'budd-dal' a 'budd-daliadau'.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Richard Hughes" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, August 20, 2002 9:57 AM
> Subject: Budd-da^l
>
>
> > Cywir yw 'budd-da^l'!
> >
> > Y rhesymeg yw:
> >
> > a). Ni ellir darogan a'i byr ynteu hir fydd llafariad gair unsill sydd
> > yn diweddu ag 'l': felly cawn yr acen grom mewn 'ta^l' (i
wahaniaethu
> > rhwng 'tal' == 'hir').
> >
> > b). Yr unig bryd y ceir acen ar lafariad sillaf olaf gair lluosill yw os
> > bydd acen ar y sillaf honno pan nas rhagflaenir gan ragddodiad:
> > felly cawn y gair unsill 'ta^l' a'r gail lluosill 'di-da^l'.
> >
> > c). Mewn enw cyfansawdd fel 'iawndal' mae'r acen ar y goben (symudiad):
> > felly nid oes angen yr acen grom.
> >
> > ch). Yn y gair 'budd-da^l' mae angen y cysylltnod i wahannu y graffemau
> > cytseiniol 'dd-d'; canlyniad dylanwad y cysylltnod yw bod yr
> > acen yn aros ar y sillaf olaf - nid yw yn symud i'r sillaf obennol:
> > yngenir 'budd-da^l' nid 'bUdd-dal': felly rhaid cadw yr acen grom.
> >
> > d). Eithriad i ch). yw'r gair 'lladd-dy' - ni cheir acen grom ar 'ty^'
> > pan fo'n elfen olaf mewn gair cyfansawdd (hefyd 'gwesty'/'bathdy').
> >
> > dd). Mae'r cysylltnod yn gwahanu cytseiniaid - nid oes ei angen mewn
> > gair fel 'cynorthwyydd'.
> >
> > e). Mawr ymddiheuraf i Delyth.
> >
> > Richard Hughes
> > Gesellschaft beratender Informatiker
> > Muenchen
> > Yr Almaen
> >
|