Diolch Ann - mae'n debyg mai dim ond disgiau sydd ar gael bellach gan eu bod
wedi derbyn cymaint o alwadau ffôn!! Fe ofynnodd wrtha'i sut oeddwn i wedi
cael y rhif ffôn, a bu raid imi esbonio ychydig am y cylch termau. (dyn
atebodd y ffôn gyda llaw). Doedden nhw ddim yn deall pam roedd y ceisiadau
am gopiau wedi cynyddu i'r fath raddau dros y dyddiau diwethaf!!!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 25, 2002 11:52 AM
Subject: Canllaw i Lywodraeth Leol Cymru 2001-2
> Dw' i wedi bod yn defnyddio fersiwn 1996-97 yr cyhoeddiad dwyieithog uchod
> ar gyfer teitlau cynghorau, eu hadrannau ayb. Erbyn hyn mae'r fersiwn
> newydd ar gael, am ddim, ar ddisg neu ar ffurf llyfryn, gan:
>
> Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 02920 468600.
>
> (Gofynnais ganiatad y ferch yn y swyddfa cyn ysgrifennu'r neges hon, rhag
> ofn y buasech chi i gyd yn ffonio ar unwaith!)
>
> Ann
|