Beth sydd yn rhestr termau meddygol UyG?
Tim
-----Original Message-----
From: Mair Edwards [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 26 July 2002 09:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Mole (removal)
Dafad ydi'r gair fyddwn i'n ei ddefnyddio ar gyfer "wart" - sydd yn
wahanol i "mole", a dafad wyllt am dyfiant ar y croen sydd yn
tyfu/ehangu.
Dwi hefyd yn cytuno bod man geni yn beth gwahanol i "mole"...
...ond fedrai ddim meddwl beth fyddwn i'n galw "mole"!
Mair Edwards
>
>
> 'Dafad' yw'r term am 'mole' yn y pen yma (Llyn ac Eifionydd),
> hynny yw tyfiant, brown fel rheol, ar groen unrhyw ran o'r
> corff. Man, neu maen, geni yw staen parhaol ar y croen.
>
> Wil Roberts
> ----- Original Message -----
> From: "John Puw" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, July 26, 2002 9:01 AM
> Subject: Mole (removal)
>
>
> Marc ar groen, yn hytrach na rhes o greaduriaid yn hongian
> gerfyn eu traed ar ffens. 'Man geni' sydd yn GyrA ond roeddwn
> o dan yr argraff bod y marciau hyn hefyd yn gallu datblygu ar
> ôl geni. Rhoddir hefyd 'man du', ond rwyf wedi gweld rhai
> gwyn (neu binc neu beth bynnag yw lliw naturiol y croen). Ai
> fi sydd wedi camddarllen yn anatomegol, a beth ddylwn i alw
> 'mole removal' - mae 'tynnu man geni' yn swnio'n boenus ar y naw!!!
>
> Diolch o flaen llaw am unrhyw gymorth
>
> John Puw
>
>
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.375 / Virus Database: 210 - Release Date: 10/07/2002
>
|