Pobl Unllygadol amdani 'te.
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 30, 2002 1:00 PM
Subject: Re: UNIOCULAR
A fyddai peryg i bobl ddrysu rhwng 'pobl unllygeidiol' a 'phobl
unllygeidiog'?
Sian
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 30, 2002 12:28 PM
Subject: Re: UNIOCULAR
Rwy'n amau a fyddai 'pobl ag un llygad' yn wyddonol gywir. Gall dyn fod a^
dau lygad ond heb fod yn gallu gweld drwy un - neu'r ddau - ohonynt. Byddai
'pobl sy'n gweld drwy un llygad' yn well disgrifiad cyffredinol, a 'pobl
unllygadol/unllygeidiol' yn ymadrodd mwy termllyd-wyddonol, am wn i.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "John Puw" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 30, 2002 11:06 AM
Subject: UNIOCULAR
Yn ymwneud â'r golwg - un o nifer o grwpiau risg sy'n derbyn gwasanaeth
arbennig.
"Un llygadol"??? Llygadol (a Llygeidiol) (ansoddair) mae GyrA yn ei gynnig
am Ocular. Neu a fydda fo'n well ysgrifennu:
"Pobl ag un llygaid" fel bod pawb yn dallt. Unrhyw sylwadau? Diolch o flaen
llaw.
John Puw
|