ymddiheuriadau am ddod at y sgwrs yma'n hwyr
oes 'na rywbeth o le gyda "cerdyn cyfrif" am charge card?
mae'n ymddangos i fi bod y cardiau hyn yn cael eu defnyddio ar y cyd a
chyfrif mewn siop/garej/busnes.
wrth gwrs bydd rhai yn dweud eich bod yn cael cerdyn gyda'ch cyfrif banc a
gallai achosi problemau, ond fel arfer cerdyn debyd yw hynny fel Barclays
Connect neu beth bynnag.
mae pob cerdyn yn gerdyn talu, ond wi'n credu bod cerdyn credyd, cerdyn
debyd a cherdyn cyfrif yn ddigon eglur.
ddiau bydd rhywun yn dod yn ôl nawr a dweud mod i wedi camddeall syniad y
peth (digon posibl!!!), ond byddai'n braf cael clywed barn y doethion!
diolch
deano
|