Dywedodd Tim Saunders:
"O'r hyn a welais, cefais yr argraff fod 'charge card' yn berthynol i
gyfrif gan gwsmer gyda manwerthwr penodol. Ond ni wn i fawr ddim am fyd
masnach. ALl rhywun sy'n dallt y dalltings egluro?"
Yn achos cwmni fel Debenhams, dyna y mae 'chargecard' yn ei olygu. Ond
mae 'BT Chargecard' yn gerdyn sy'n nodi nifer o rifau côd y gellir eu
defnyddio er mwyn i gost galwad ffôn gan berchennog y cerdyn, o unrhyw
ffôn, gael ei hychwanegu at fil ei ffôn gartref.
Tebyg ond gwahanol (os gwelwch chi be sydd gen i).
Wyn
|