Diolch
-----Original Message-----
From: Mair Edwards [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 26 July 2002 10:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Mole (removal)
Beth am "darparu triniaethau llawfeddygol syml (e.e. tynnu defaid a
brychau'r croen)"?
Roeddwn i'n credu fod trin man geni go iawn yn broses llawer iawn mwy
cymhleth sydd angen triniaeth laser.
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On
> Behalf Of John Puw
> Sent: 26 July 2002 10:13
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Mole (removal)
>
>
> Wedi gyrru'r neges wreiddiol, edrychais yn Termau Meddygol
> (GPC - 1986) ac mae hwnnw hefyd yn cynnig 'man geni' a dim
> arall, oni bai ei fod o'n gwahaniaethu rhwng dau wahanol fath
> (blewog a hydatidffurf). Mae 'birth mark' a 'mole' yn ddau
> beth gwahanol iawn i edrych arnynt hyd y gwela i, ond mae'r
> consensws geiriol yn galw'r ddau beth wrth yr un enw yn y Gymraeg.
>
> Ond oherwydd y consensws hwn, rwyf ar hyn o bryd yn gorfod
> defnyddio 'tynnu man geni'. Y broblem yw mai holiadur yw hwn
> fydd yn cael ei ddosbarthu i'r cyhoedd yn y Gogledd 'ma.
> Mae'n gorfod mynd yn ôl heddiw, a tydw i ddim yn dymuno
> camarwain pobl.
> Mae'r frawddeg yn darllen yn llawn - "Make minor surgery
> (wart, mole removal)available"
>
> Rwyf newydd ddarllen neges Tim - pa un ydi UyG plis?
>
> Diolch hyd yn hyn
>
> John
> -----Original Message-----
> From: Mair Edwards [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 26 July 2002 09:41
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Mole (removal)
>
>
> Dafad ydi'r gair fyddwn i'n ei ddefnyddio ar gyfer "wart" -
> sydd yn wahanol i "mole", a dafad wyllt am dyfiant ar y croen
> sydd yn tyfu/ehangu.
>
> Dwi hefyd yn cytuno bod man geni yn beth gwahanol i "mole"...
> ...ond fedrai ddim meddwl beth fyddwn i'n galw "mole"!
>
> Mair Edwards
>
>
> >
> >
> > 'Dafad' yw'r term am 'mole' yn y pen yma (Llyn ac Eifionydd),
> > hynny yw tyfiant, brown fel rheol, ar groen unrhyw ran o'r
> > corff. Man, neu maen, geni yw staen parhaol ar y croen.
> >
> > Wil Roberts
> > ----- Original Message -----
> > From: "John Puw" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Friday, July 26, 2002 9:01 AM
> > Subject: Mole (removal)
> >
> >
> > Marc ar groen, yn hytrach na rhes o greaduriaid yn hongian
> > gerfyn eu traed ar ffens. 'Man geni' sydd yn GyrA ond roeddwn
> > o dan yr argraff bod y marciau hyn hefyd yn gallu datblygu ar
> > ôl geni. Rhoddir hefyd 'man du', ond rwyf wedi gweld rhai
> > gwyn (neu binc neu beth bynnag yw lliw naturiol y croen). Ai
> > fi sydd wedi camddarllen yn anatomegol, a beth ddylwn i alw
> > 'mole removal' - mae 'tynnu man geni' yn swnio'n boenus ar y naw!!!
> >
> > Diolch o flaen llaw am unrhyw gymorth
> >
> > John Puw
> >
> >
> >
> > ---
> > Outgoing mail is certified Virus Free.
> > Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> > Version: 6.0.375 / Virus Database: 210 - Release Date: 10/07/2002
> >
>
|