'Arf dewis tent' ddaeth i'r meddwl gyntaf.
Mae'n debyg mai math o faner ydi 'marquee' ar gyfrifiadur. Mae fersiynau
syml i'w cael yn y blwch 'screen saver' yn 'properties' ar y 'desktop', ble
mae bosib teipio neges a'i chael yn croesi'r sgrin bob tro fydd yr 'arbedydd
sgrin'?? yn weithredol. Mae yno hefyd safleoedd rhyngrwyd sy'n eich
galluogi i ddadlwytho meddalwedd (drud) i greu 'marquees' ar gyfer pwrpas
busnes o rhyw fath neu'i gilydd. Doeddwn i dim yn deall y pwrpas na'r
rheswm, ond roedd o rywbeth i'w wneud â chynyddu diddordeb yn eich gwefan
pan fydd bobl yn taro heibio wrth syrffio.
Mae'n debyg fod yr offeryn/arf dewis 'marquee' felly'n dewis rhyw fath o
neges/faner/raffig/ddelwedd. Falle y bydde'n well i dy gleient ddiffinio
be'n union mae o/hi'n bwriadu 'i ddewis?
Pob hwyl
----- Original Message -----
From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 27, 2002 1:56 PM
Subject: Fw: marquee selection tool
> Oes gan unrhyw un o gwbwl allan fan'na unrhyw syniad?
>
> ----- Original Message -----
> From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
> To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, June 26, 2002 12:05 PM
> Subject: marquee selection tool
>
>
> > Sef Offer ar gyfrifiadur bwrdd gwyn sy'n caniatau llusgo
testun/delweddau
> o
> > un lle i'r llall ar dudalen - unrhyw gynigion plis?
> >
> > Ger
> >
>
|